Gwybodaeth am Shelter Cymru

 

Credwn fod cartref yn hawl sylfaenol a’i fod yn hanfodol i iechyd a lles pobl a chymunedau.

Shelter Cymru yw’r elusen yng Nghymru ar gyfer pobl a chartrefi. Rydym yn gweithio dros bobl sydd mewn angen am dai. Mae gennym swyddfeydd ar draws Cymru ac rydym yn atal pobl rhag colli eu cartrefi drwy gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol, am ddim. Pan fo’r angen, rydym yn herio’n adeiladol ar ran pobl er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynorthwyo’n gywir ac i wella ymarfer a dysgu.

Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau ar sail gyfartal. Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth er mwyn helpu pobl i ganfod y dewisiadau gorau ar gyfer dod o hyd i gartref a’i gadw, ac i’w helpu nhw i gymryd rheolaeth ar eu bywydau eu hunain.

Rydym hefyd yn gweithio i atal digartrefedd trwy ystod o gyrsiau hyfforddi a chynadleddau a seminarau. Elfen allweddol arall o’n hagenda atal yw addysg – gweithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i atal digartrefedd yng Nghymru trwy gynnig dealltwriaeth well i bobl ifanc o’r ffordd y gall digartrefedd effeithio arnyn nhw, a sut i’w osgoi.

Rydym yn cynnig cyngor ar dai mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Ewch i’n tudalen Cyngor a Chefnogaeth i gael gwybodaeth am leoliadau ac amserau sesiynau cyngor ar dai yn eich ardal neu er mwyn anfon neges e-bost atom ynghylch problem â thai/ymholiad am dai. Os oes gennych broblem brys â thai, gallwch gysylltu â’n Gwasanaethau Cyngor a Chefnogaeth ar 0845 075 5005.

Y llynedd, roeddem wedi delio â 18,000 o broblemau tai ac wedi atal digartrefedd mewn 86% o’r achosion lle’r oedd pobl yn wynebu digartrefedd. Mae cyfran yr aelwydydd sydd wedi dod atom sy’n wynebu adfeddiant morgais wedi treblu dros y tair blynedd diwethaf.

Mae Shelter Cymru yn ymgyrchu dros ffyrdd newydd o ddileu digartrefedd a’r angen am dai, dros newidiadau mewn deddfwriaeth, a thros bolisïau ac arferion a fydd yn gwella’r sefyllfaoedd tai a digartrefedd hirdymor y mae miloedd o bobl yng Nghymru yn eu hwynebu.

Ewch i’n hadran Polisi ac Ymchwil i gael mwy o wybodaeth am ein gwaith polisi ac am ymchwil yr ydym yn ymgymryd ag ef. Mae gan y Llyfrgell gopïau am ddim o’n holl gyhoeddiadau ac adroddiadau.

Mae Shelter Cymru hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddi, hyfforddiant mewnol ac mae’n cynnal cynadleddau a digwyddiadau ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â thai. Cymerwch gipolwg ar ein cyrsiau hyfforddi a’n dyddiadur digwyddiadau ar y dudalen Hyfforddiant ac Addysg.

Mae cyfraniadau gan aelodau o’r cyhoedd yn ei gwneud hi’n bosibl i ni atal digartrefedd bob dydd. Mae ein tudalen Sut y gallwch chi helpu yn darparu gwybodaeth ynghylch sut yr ariennir Shelter Cymru, sut mae eich cyfraniadau yn helpu eraill, ac yn rhoi enghreifftiau o syniadau arloesol a ffyrdd hwyliog o godi arian.

Mae Shelter Cymru yn cydnabod pwysigrwydd annog a dysgu o adborth allanol a bod yn agored ac yn glir ynghylch yr hyn sydd wedi cael ei ddweud am y sefydliad a’n hymatebion ni. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad sy’n crynhoi ein prif ffynonellau adborth yn ystod y cyfnod o fis Medi 2005 i fis Hydref 2006 a’n hymatebion i’r adborth hwnnw.

Mae Shelter Cymru yn ymrwymo i ddarparu ystod eang o wasanaethau i'r bobl yr ydym yn gweithio gyda hwy yn eu hiaith dethol. Mae gennym Gynllun Iaith Gymraeg sydd wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.