Hawlfraint ac ymwadiad cyfreithiol
Ymwadiad
Dim ond arweiniad cyffredinol ar y gyfraith fel y mae’n berthnasol i wledydd y Deyrnas Unedig a geir ar y safle hwn. Ni ddylid ei ystyried yn ddatganiad awdurdodol a chyflawn o'r gyfraith, na dibynnu arno yn y modd hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siwr bod y wybodaeth yn berthnasol i’r wlad yr ydych chi’n byw ynddi. Os ydych chi’n meddwl bod gennych broblem gyfreithiol, dylech geisio cyngor.
Nid yw Shelter Cymru yn honni nac yn gwarantu bod y wybodaeth a welir ar y wefan yn gyfoes, yn gywir, nac yn gyflawn. Gall prisiau a'r wybodaeth sydd ar gael newid heb rybudd.
Ni fydd Shelter Cymru yn atebol (i’r graddau mwyaf a ganiateir dan y gyfraith) am unrhyw golled, niwed neu anghyfleuster a all godi o ganlyniad i ddefnyddio unrhyw wybodaeth a geir ar y safle hwn, neu o ganlyniad i fethu â defnyddio'r wybodaeth.
Nid yw Shelter Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau cysylltiedig ac ni ddylid cymryd bod dolenni’n dangos cymeradwyaeth o unrhyw fath. Nid oes gan Shelter unrhyw reolaeth dros y tudalennau y ceir dolenni atynt.
Cofiwch nad yw’r negeseuon a gaiff eu postio ar ein byrddau trafod o reidrwydd yn adlewyrchu barn Shelter Cymru. Nid yw Shelter Cymru yn gyfrifol am gynnwys nac am gywirdeb y negeseuon hyn. Cadwn yr hawl i wrthod defnyddwyr yn ôl ein doethineb ein hunain, gan gynnwys y rheini a fydd yn cyflwyno unrhyw ddeunyddiau difrïol, anghyfreithlon, sarhaus neu sy’n ymwneud â hysbysebu.
Hawlfraint
Mae’r safle hwn ar gael at eich diben personol, anfasnachol yn unig. Ni chewch gopïo, ailgynhyrchu, ailgyhoeddi, postio, dosbarthu, trosglwyddo nac addasu unrhyw ran o’r safle hwn mewn unrhyw fodd.
© 2007 Shelter Cymru Cedwir Pob Hawl.
Rhif cofrestru’r elusen 515902
Cwmni cyfyngedig dan warant, a gofrestrwyd yng Nghaerdydd fel Welsh Housing Aid Limited 1830262