Polisi preifatrwydd

Mae Shelter Cymru wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd. Mae’r dudalen hon yn egluro ein polisi ar gasglu, storio a phrosesu eich gwybodaeth bersonol ac ariannol, a chamau y gallwch eu cymryd i warchod eich preifatrwydd ar ein gwefan.

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn amlinellu’r arferion gwarchod preifatrwydd a data ar gyfer yr holl wefannau a weithredir gan Shelter Cymru.

Mae cyfeiriadau at ‘ni’ yn cyfeirio at Welsh Housing Aid Limited, sy’n masnachu dan yr enw Shelter Cymru – rhif elusen gofrestredig 515902 o 25 Heol Walter, Abertawe SA1 5NN.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n Switsfwrdd ar 01792 469400, neu ar-lein drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.

Casglu gwybodaeth bersonol

Rydyn ni'n casglu gwybodaeth gennych, megis manylion y byddwch chi’n eu trosglwyddo i ni pan fyddwch chi’n rhoi rhodd, yn ymuno ag ymgyrch, yn archebu lle ar gwrs hyfforddi, yn prynu nwyddau neu wasanaethau neu’n llenwi unrhyw ffurflen ar-lein ar wefan Shelter Cymru. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwch chi’n ymateb i apêl neu’n cymryd rhan mewn gweithgarwch. Mae’r wybodaeth hon yn gymorth i ni wybod pa gymhellion, apeliadau a chamau gweithredu sy'n gweithio’n dda ac sy’n cynorthwyo Shelter Cymru i ymgyrchu dros dai derbyniol i bawb.

Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Defnyddir y wybodaeth bersonol a gasglwn gennych i ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau neu gynnyrch rydych wedi gwneud cais amdanynt, ac at ddibenion gweinyddol. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu ein hamcanion elusennol, gan gynnwys gweithgareddau codi arian ac ymgyrchu.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth â’r rheini sy’n darparu gwasanaethau i ni, asiantau a mudiadau cysylltiedig at y dibenion hyn. Nid ydym yn datgelu gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatgelu eich gwybodaeth os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Gallwch ddileu eich enw oddi ar y rhestr ohebiaeth ar unrhyw adeg drwy gysylltu â'n Switsfwrdd ar 01792 469400, neu ar-lein drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.

Gwybodaeth ariannol

Dim ond y wybodaeth ariannol rydych chi'n ei darparu'n fwriadol wrth wneud taliad neu gyfraniad, megis taliadau cerdyn debyd neu gerdyn credyd drwy wefan Shelter Cymru y byddwn ni'n ei chasglu. Mae’r wybodaeth hon wedi’i hamgryptio, ac fe'i hanfonir at weinyddion diogel er mwyn i'ch trafodiad gael ei gwblhau.

Gwybodaeth am ddefnyddio'r safle

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am ddefnyddio’r safle, gan ddefnyddio briwsion (cookies). Mae'r wybodaeth hon yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut y defnyddir gwefan Shelter Cymru, a sut y gallwn wella ein gwasanaethau i’n cleientiaid a chefnogwyr.

Briwsion

Ffeiliau testun bach yw briwsion sy'n cael eu creu'n aml pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan, a'r rheini'n cael eu storio yng nghyfeiriadur briwsion eich cyfrifiadur. Caiff briwsionyn ei greu pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan Shelter Cymru. Gallwch ddewis peidio â derbyn briwsion, neu ddileu briwsion presennol drwy addasu eich dewisiadau diogelwch rhyngrwyd. Fodd bynnag, os byddwch chi'n dewis peidio â derbyn briwsion, ni fydd rhai rhannau o'n gwefan yn gweithio fel y dylent. Ceir rhagor o wybodaeth am friwsion yn www.allaboutcookies.org.

Storio eich gwybodaeth

Caiff gwybodaeth bersonol y byddwch chi'n ei chyflwyno ar wefan Shelter Cymru ei storio ar weinyddion diogel. Wnawn ni byth werthu na rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw fudiad arall ar wahân i Shelter Cymru.

Gwefannau allanol

Mae gwefan Shelter Cymru yn cynnwys dolenni at wefannau allanol. Nid yw’r rhain yn eiddo i Shelter Cymru nac ychwaith yn cael eu rheoli gan Shelter Cymru. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros gynnwys unrhyw wefannau allanol nac am eu preifatrwydd.

Newid eich manylion

Os bydd eich manylion personol yn newid, helpwch ni i ddiweddaru’n cofnodion drwy gysylltu â’n Switsfwrdd ar 01792 469400, neu ar-lein drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.

Cael gafael ar eich gwybodaeth

Mae gennych hawl dan Ddeddf Diogelu Data 1998 i ofyn am gopi o’r wybodaeth a gadwn amdanoch chi. Efallai y byddwn ni'n codi ffi fechan arnoch am hyn.

Os hoffech gael copi, cysylltwch â’n Switsfwrdd ar 01792 469400, neu ar-lein drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Chwefror 2007