Val Feld Trophy

Gweld/Lawrlwytho ffurflen gais.

Gweld/Lawrlwytho nodiadau canllaw.

Gwobr Val Feld

 

2007 Winners

Yn 2002, sefydlodd Shelter Cymru Wobr Menywod a Digartrefedd Val Feld. Val oedd cyfarwyddwraig gyntaf yr Elusen, ac mae'r wobr yn ffordd o goffáu ei chyfraniad diflino ym maes tai, ac yn benodol at hyrwyddo cyfranogiad menywod ym maes tai.

Rhoddir y wobr bob blwyddyn i gynllun sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â menywod a digartrefedd. Bydd yr enillydd yn derbyn cerflun efydd a ddyluniwyd gan yr artist o Gymru, Helen Sinclair, ac o 2008 ymlaen, bydd y wobr ariannol yn £3,000.

 

Enillwyr blaenorol:

2007: Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe: Prosiect Ymyrryd Mewn Argyfwng, Abertawe

2006: Gwasanaethau Llamau i Fenywod, rhaglen ‘Kick Start’, Caerdydd

2005: Cymdeithas Tai Hafan, Prosiect Menywod Ifanc Wrecsam

2004: Cymdeithas Tai Menywod Ifanc, Prosiect ‘Insight’, Caerdydd

2003: Cymdeithas Tai Hafan, Prosiect Perl, Hwlffordd

 

Croesewir ceisiadau ar gyfer gwobr 2008 gan fudiadau ac unigolion sy'n dymuno gwneud ymchwil i faterion sy’n ymwneud â menywod, tai a digartrefedd; sefydlu neu ariannu astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer prosiect newydd; neu helpu i ddatblygu prosiect sy’n bodoli eisoes.

 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais, gweler ein nodiadau canllaw uchod. Y dyddiad cau yw 31 Mai 2008.

 

Barnwyr:

Sue Essex - Cyn Weinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Bronwen Feld - Merch Val Feld

John Puzey - Cyfarwyddwr Shelter Cymru

Michelle Wales - Pennaeth Materion Allanol, Shelter Cymru

 

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â mynd ati i wneud cais, cysylltwch â’r adran Materion Allanol ar 01792 483071 neu defnyddiwch ein ffurflen gysylltu.