Hyfforddiant

 

Mae gan Shelter Cymru flynyddoedd o brofiad o ddarparu hyfforddiant o safon am brisiau fforddiadwy.

Ein nod yw darparu hyfforddiant o safon sy’n galluogi eraill i ddarparu gwell gwasanaethau er mwyn atal digartrefedd a gwella amodau tai yng Nghymru.  Rydym yn cynnig dros 20 o gyrsiau ym maes cyngor tai, y gyfraith, digartrefedd, budd-daliadau a sgiliau.

Yn ychwanegol at ein hamrywiaeth o gyrsiau i’r cyhoedd, gall Shelter Cymru hefyd ddarparu hyfforddiant mewnol i’ch staff eich hun mewn lleoliad o’ch dewis.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen briodol ar y chwith, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu neu ffoniwch ni ar 01792 483020.